O'r nef mi glywais newydd

1,2,4,(5);  1,2b;  1,3,4.
O'r nef mi glywais newydd
  Fe'm cododd ar fy nhraed
Fod ffynnon wedi ei hagor
  I gleifion gael iachâd;
Fy enaid, rhed yn ebrwydd,
  A phaid â llwfwrhau,
O'th flaen mae drws agored
  Na ddichon neb ei gau.

O Arglwydd, dwg fy ysbryd
  I'r ffynnon hyfryd, lân;
Ysgafnach fydd fy meichiau,
  Melysach fydd fy nghân;
Goleuach fydd fy llwybrau,
  A'm camre fydd yn gynt,
Fe redaf heb ddiffygio,
  Ond teimlo'r dwyfol wynt.

[O Arglwydd, dwg ein hysbryd
   I'r ffynnon hyfryd lân,
 Ysgafnach fydd ein beichiau,
   Melysach fydd fy nghân;
 Goleuach fydd ein llwybrau,
   A'n camre fydd yn gynt,
 Ni redwn heb ddiffygio,
   Ond teimlo'r dwyfol wynt.]

Fe gododd Haul Cyfiawnder
  Yn ddisglair yn ei rym;
Gwasgarodd y cymylau,
  Ar ôl y gaeaf llym;
Mae myrdd yn awr yn canu
  Telynau'r nefoedd fawr;
Paham ma chanwn ninnau
  Delynau bach y llawr?

Ti, Iesu, fo hyfrydwch
  Fy meddwl i'w fywhau,
A gwrthrych pur fy nghariad
  I'th hoffi a'th fwynhau;
Fy ymffrost a'm gogoniant
  Drwy hyn o anial daith,
A'm cyflawn iachawdwriaeth
  I dragwyddoldeb maith.

O Arglwydd, galw eto
  Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
  Sy'n dal eneidiau'n ôl;
A galw hwynt o'r dwyrain,
  Gorllewin, gogledd, de,
I'th Eglwys yn ddiatal –
  Mae digon eto o le.
1-3: Dafydd William 1720-94
  4: Dafydd Jones 1711-77

Tonau [7676D]:
Abertawe (Salmydd Marot 1495-1554)
Culmstock (<1825)
Kilmorey (John A Lloyd 1840-1914)
Neuadd Lwyd (D Emlyn Evans 1843-1913)
Rutherford (Chrétien Urhan 1790-1845)
Rhyddid (alaw Gymreig)
Shiloh (Melchior Teschner 1584-1635)
Talybont (alaw Gymreig)
Wilton Square (Megan Watts-Hughes 1842-1907)

gwelir:
  Am graig i adeiladu
  Fe gododd Haul Cyfiawnder
  Mae Salem heb ei llanw
  O Arglwydd galw eto

From heaven I heard news
  It raised me to my feet
That there is a fountain opened
  For the wounded to be healed;
My soul, run quickly,
  And do not be fainted hearted,
Before thee is an open door
  Which no-one could possibly close.

O Lord, lead my spirit
  To the pure, delightful fountain;
Lighter shall be my burdens,
  Sweeter shall be my song;
Brighter shall be my paths,
  And my steps shall be swift,
I shall run without wearying,
  But feel the divine wind.

[O Lord, lead our spirit
   To the pure, delightful fountain,
 Lighter shall be our burdens,
   Sweeter shall be our song;
 Brighter shall be our paths,
   And our steps shall be swift,
 We shall run without wearying,
   But feel the divine wind.]

The Sun of Righteousness has risen
  Shining in his force;
He dispersed the clouds,
  After the sharp winter;
A myriad now are playing
  The harps of great heaven;
Why may we not play
  The small harps of earth?

Thou, Jesus, be the beauty
  My thoughts to enliven,
And the pure object of my love
  To enjoy thee and possess thee;
My pride and my glory
  Through this from a desert journey,
And my complete salvation
  To a vast eternity.

O Lord, call again
  Myriads after thee,
And shatter all the chains
  Which hold souls back;
And call them from the east,
  West, north, south,
To thy Church ceaselessly -
  There is still enough space.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~